Llythyr at yr Aelodau - Mai 2015

Cynhaliodd y Bwrdd Taliadau y pedwerydd o’i gyfarfodydd yn 2015 ar 22 Mai. Rwy'n ysgrifennu atoch ynghylch y datblygiadau.

Fel y gwyddoch, yn y bore, mewn cynhadledd i'r wasg, lansiodd y Bwrdd ei Benderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad ac adroddiad ar yr adolygiad a gynhaliwyd gennym. Cafodd hyn sylw eang yn y cyfryngau.

 

Yn y prynhawn, cynhaliodd y Bwrdd gyfarfod byr.

Buom yn trafod rhai materion yr ydym am eu cynnwys mewn adroddiad byr ar faterion trosglwyddo i'r Bwrdd fwrw ymlaen â hwy yn ei ail fandad.

Nodwyd y cynnydd a wnaed yn y gwaith i ddiweddaru'r ystod o bolisïau a dogfennau ategol sy'n rheoli cyflogi Staff Cymorth. Byddwn yn ymgynghori ar newidiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Hefyd, cawsom bapur cynhwysfawr iawn gan y Tîm Pensiynau yn nodi cynigion ar gyfer rhoi Cynllun Pensiwn newydd yr Aelodau ar waith yn y 12 mis nesaf.

 

Fel arfer, mae'n fwriad gennyf wneud y llythyr hwn yn gyhoeddus ar ein gwefan unwaith y bydd yr Aelodau wedi cael cyfle i'w ddarllen.

 

Rwy'n fodlon cwrdd yn unigol ag Aelodau Cynulliad neu bleidiau. Os hoffech gwrdd â mi, cysylltwch â Gareth Price, Clerc y Bwrdd, drwy anfon neges at taliadau@cynulliad.cymru i wneud trefniadau. 

 

Yn gywir

Sandy Blair CBE DL

Cadeirydd

Y Bwrdd Taliadau